24 Cathedral Road / 24 Heol y Gadeirlan

Cardiff / Caerdydd

                                                                                                                                             CF11 9LJ

 

 

Mr Nick Ramsay AC                                                                                  Tel / Ffôn: 029 2032 0500

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus                                 Fax / Ffacs: 029 2032 0600 Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                               Textphone / Ffôn testun: 029 2032 0660

Bae Caerdydd                                                          info@audit.wales / post@archwilio.cymru

Caerdydd CF99 1NA                                                              www.audit.wales / www.archwilio.cymru

Cyfeirnod:    HVT/2839/caf

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2018

Annwyl Nick

Rhaglen o astudiaethau gwerth-am-arian 

Bydd arnoch eisiau cael gwybod y bydd Swyddfa Archwilio Cymru cyn bo hir yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i wahodd barn ynghylch pynciau y byddwn efallai yn ystyried eu cynnwys yn ein rhaglenni gwaith yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, ni fyddwn yn cynnig rhestr hir o ddewisiadau. Y cyfan y bydd yr ymarferiad hwn yn ei wneud fydd gwahodd atebwyr i dynnu sylw at feysydd sydd o ddiddordeb/pryder o’u safbwynt hwy, fel sylfaen o wybodaeth ar gyfer ein gwaith cynllunio cyson. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn – pan fydd fy olynydd yn ei swydd – ceir ymgynghoriad mwy ffurfiol gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a sefydliadau sy’n rhanddeiliaid allweddol.

Yn y cyfamser, dymunaf ddwyn i’ch sylw rai materion eraill y bu staff Swyddfa Archwilio Cymru yn eu hystyried ar fy rhan, y teimlaf ei bod yn werth adrodd amdanynt yn gyhoeddus. Yn benodol:

           Anfonais gopi i chi’n ddiweddar o’m hymateb i ymgynghoriad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ‘Gyflwr Ffyrdd yng Nghymru’. Nodai’r ymateb hwnnw ein bod wedi cwblhau rhai ymholiadau archwilio rhagarweiniol er mwyn deall hanes prosiect Adran 2 yr A465 yn well, a’r materion sydd wedi effeithio ar y costau ac ar yr amserlen. Rwyf wedi penderfynu ei bod yn werth gwneud ychydig o waith archwilio pellach fydd yn arwain at baratoi adroddiad / memorandwm ar hanes y prosiect. Bydd y gwaith hwnnw yn cymryd

adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun o’r prosiect i ystyriaeth ynghyd â chanlyniad ei gwaith gyda’r contractwr (Costain) i ddatrys y materion oedd yn destun dadl. Fodd bynnag, nid wyf yn disgwyl y ceir adroddiad ar y gwaith hwn cyn i mi orffen fy nhymor fel Archwilydd Cyffredinol.

           Tua diwedd 2017, derbyniais ohebiaeth oedd yn codi pryderon ynghylch gwerth-am-arian y gwariant ar gynllun MyTravel yn 2015-16 a 2016-17. Mae MyTravel yn cynnig disgowntiau i bobl ifanc 16-18 mlwydd oed ar deithiau bws yng Nghymru. Mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau rhai ymholiadau rhagarweiniol gyda Llywodraeth Cymru a chredaf fod y materion a ganfuwyd yn haeddu cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Fy mwriad yw crynhoi’r materion hyn mewn adroddiad/memorandwm byr, y gobeithiaf allu ei gynhyrchu cyn gwyliau’r haf. Er hynny, mae hyn yn amodol ar allu cael mynediad buan at beth gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ac mae hefyd yn dibynnu ar yr amser fydd ei angen i gytuno ar gywirdeb ffeithiol ein sylwebaeth.

At hynny, byddwch yn cofio bod dogfennau rhaglen waith y Pwyllgor ei hun yn cyfeirio’n ddiweddar at beth gwaith newydd yr oeddwn yn ymgymryd ag ef ar staffio asiantaeth y GIG. Rydym wedi penderfynu ymestyn ychydig ar ein cwmpas a’n hamserlen ar gyfer y gwaith hwn, gyda golwg ar ei gwblhau yn hydref 2018. Bwriadwn archwilio dewisiadau ar gyfer allbynnau eraill yma, yn ogystal â’r adroddiad traddodiadol. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y data sydd gan GIG Cymru ar nifer a chostau staff asiantaeth ynghyd â gwybodaeth am y ffactorau sy’n gyrru’r galw am staff asiantaeth. Bydd yn tynnu sylw at dueddiadau dros gyfnod a’r amrywiadau rhwng cyrff iechyd yng Nghymru o ran y graddau y maent yn defnyddio staff asiantaeth. Byddwn hefyd yn cymharu, lle bo modd, y patrymau a’r tueddiadau gwario yng Nghymru gyda’r rheiny yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gobeithio y bydd y diweddariad hwn o gymorth i chi cyn ymgynghoriad pellach ynglŷn â’n rhaglenni gwaith yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddwn yn hapus i dderbyn unrhyw sylwadau a fo gan y Pwyllgor ar hyn o bryd.  

 

Yn gywir

HUW VAUGHAN THOMAS

ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

 

 

 

Tudalen 2 o 2 - Rhaglen o astudiaethau gwerth-am-arian - Please contact us in Welsh or English / Cysylltwch â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg.